Cymraeg

Lleisiau Amrywiol

Prosiect sy'n caniatáu i bawb gael eu clywed

I ddechrau roedd Lleisiau Amrywiol yn brosiect peilot a gefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i glywed lleisiau pawb yn ein cymuned.

Comisiynwyd dau awdur i archwilio syniadau yn ymwneud â Robert Owen o'u safbwynt unigol. Buont yn arsylwi ac yn cyfarfod â phobl yn ein cymuned. Roedd eu hymatebion cychwynnol yn sail i'r ysgrifennu ar waith celf cyhoeddus Robert Owen 250 gan Howard Bowcott.

Rydym yn cydnabod bod pobl mewn cymuned fach fel ein cymuned ni yn aml yn cydweithio i wneud i bethau weithio. Rydym hefyd yn cydnabod y gallwn weithiau fod yn rhan o’r gymuned gyfan ond hefyd bod yn rhan o grŵp gwahanol hefyd. Rydym yn galw hyn yn groestoriadol.

Rydym yn dathlu croestoriad, ac rydym yn croesawu amrywiaeth a chynhwysiant. Gyda hyn mewn golwg, roeddem am archwilio gwahanol safbwyntiau a dyna o ble y daeth Lleisiau Amrywiol. Clywn leisiau amrywiol drwy gydol ein rhaglenni yn Oriel Davies. Gofynnwn i bobl wrando ar y lleisiau hynny a gobeithiwn y byddant yn ein helpu ni i gyd i weld ein byd o safbwyntiau newydd a gwahanol. Weithiau mae hyn yn hawdd, weithiau gall fod yn heriol. Gofynnwn i bob llais gael ei drin â pharch cyfartal.

Dylan Huw

Sadia Pineda Hameed

Mae'r Llinyn wedi datblygu i gynnwys ffurfiau eraill ar gelfyddyd.

Ashrah Suudi

Darganfyddwch fwy yma

You might also be interested in...