Cymraeg

Comisiwn Creadigol

Ymateb i Gasgliadau Cyfoes Cenedlaethol Cymru

Mae Oriel Davies yn gwahodd artistiaid i ymateb i waith yn y casgliadau cyfoes a gedwir yn yr Amgueddfa ac Oriel Gelf Genedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gall artistiaid o Gymru sy'n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth wneud cais. Mae’r comisiwn yn cynnwys cynhyrchu gweithgaredd hygyrch ac ymateb creadigol i waith dethol neu i artist o’r casgliad. Bydd y ddau ddarn o waith yn cael eu rhannu’n ddigidol ar wefan Oriel Davies a Celf ar y Cyd.

Mae ffi i’r artist o hyd at £1,800. Rhaid cwblhau’r gwaith erbyn 31 Mawrth 2025.

Mae'r broses ymgeisio yn cynnwys sgwrs gychwynnol gyda'r oriel, ac yna cynnig byr gan yr artist. Croesewir ceisiadau gan artistiaid mwyafrif byd-eang, artistiaid ag anableddau ac artistiaid o'r gymuned LGBTQIA+.

Dylai artistiaid sydd â diddordeb gysylltu â Kate Morgan-Clare, Cynhyrchydd Creadigol yn Oriel Davies trwy e-bost erbyn dydd Mercher 15 Ionawr. Bydd yr artist llwyddiannus yn cael ei hysbysu ddiwedd Ionawr.

Cysylltwch â kate@orieldavies.org


Commission

CELF a Celf ar y Cyd

Mae’r casgliadau cenedlaethol o gelf gyfoes sydd gan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn perthyn i bawb yng Nghymru.

Rhwydwaith o'r Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa Genedlaethol a 9 oriel ledled Cymru yw CELF - Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru. Bydd cydweithio yn galluogi mynediad democrataidd ehangach i weithiau cyfoes sy’n perthyn i’r genedl. Trwy raglen fenthyciadau newydd a llwyfan digidol Celf ar y Cyd , bydd pawb yng Nghymru yn gallu archwilio’r casgliad yn eu hardaloedd eu hunain, tra hefyd yn sicrhau bod mwy o bobl ledled Cymru, y DU, ac yn rhyngwladol yn gallu cael gwell mynediad digidol i’r casgliad cenedlaethol. .

Aelodau’r rhwydwaith o orielau yw:

• Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth

• Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

• MOSTYN, Llandudno

• Amgueddfa ac Oriel Casnewydd, Casnewydd

• Oriel Davies, Y Drenewydd

• Oriel Myrddin, Caerfyrddin

• Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli

• Canolfan Grefft Rhuthun, Rhuthun

• STORIEL, Bangor

Celf

Published: 19.12.2024