Cymraeg

Lle Newydd Sbon!

Rydyn ni wedi gorffen glanhau’r gwanwyn yn oriel 1, mae Neil a Frank wedi bod mor brysur yn peintio’r gofod gyda Little Greene Slaked Lime ac mae’r llawr yn llwydfelyn ac yn barod i fynd. I ddathlu rydym yn cynnal arddangosfa arbennig am gyfnod cyfyngedig iawn.

Cydweithio ar Waith: Lithograffeg Brydeinig 1800-2022 (4-27 Mai 2023)

Mae’r arddangosfa hon yn cynnig arolwg gweledol o lithograffeg Prydain o’i dechreuad ar droad y 19eg ganrif hyd heddiw, gan ganolbwyntio ar y cydweithio rhwng artist ac argraffydd. Daw llawer o’r printiau sy’n cael eu harddangos o Gasgliadau Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, wedi’u hategu gan y rhai sydd ar fenthyg gan artistiaid cyfoes a stiwdios. Cymhwysodd Paul Croft RE, curadur yr arddangosfa hon, fel Meistr Argraffydd yn Sefydliad Tamarind, Albuquerque ym 1996 ac mae bellach yn dysgu gwneud printiau yn yr Ysgol Gelf yn Aberystwyth.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith gan:

Thomas Barker o Gaerfaddon, Frank Brangwyn, Alfons Bytautas, Bernard Cheese, Robert Colquhoun, Eileen Cooper, Ruth Jen Evans, Mary Fedden, Barnett Freedman, Marcelle Hanselaar, James Duffield Harding, Charles Hullmandel, Elspeth Lamb, Stanley Jones, Mary Lloyd Jones, Flora McLachlan, John Piper, Eric Ravilious, Paula Rego, Ceri Richards, Michael Rothenstein, Bronwen Sleigh, Graham Sutherland, James Abbott McNeil Whistler a Keith Vaughan (a llawer o rai eraill...)

Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme a CCAUC.

The Woodman Blue Boy Keith Vaughan (1912-77) Lithograff 465mm x 315mm 1949 Cyhoeddwyd gan Miller’s Press, © Ystad Keith Vaughan

Published: 06.04.2023