Orielau Arddangos Oriel Davies Ar Gau ar gyfer Adnewyddu
Mae’r prif orielau yma yn Oriel Davies bellach ar gau er mwyn cwblhau’r gwaith adeiladu sydd ei angen fel rhan o’n cynnwys o fewn rhwydwaith partner Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru. Ariennir y buddsoddiad cyfalaf hwn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd ein siop a’n caffi ar agor fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Hefyd, cadwch lygad am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd i ddod, bydd digon i'w wneud o hyd yn Oriel Davies!