RO250
Robert Owen 250
Roedd 2021 yn nodi 250 mlynedd ers genedigaeth Robert Owen yn y Drenewydd.
Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus llawn, mae prosiect cyfunol i nodi'r pen-blwydd hwn wedi'i lansio, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal yn Y Drenewydd ym mis Ebrill.
Mae pedair agwedd benodol i brosiect Robert Owen 250, pob un yn hefo’r bwriad o wahodd cyfranogiad cymunedol.
Mae darn parhaol o gelf gyhoeddus wedi’i gomisiynu ac yn cael ei greu gan yr artist proffesiynol, Howard Bowcott. Bydd hwn yn cael ei leoli yn y dref ger yr Afon Hafren, gyferbyn â'r parc sglefrio, er mwyn i bobl ymgysylltu ag ef a'i fwynhau. Mae’r awduron Dylan Huw a Sadia Pineda Hameed wedi cael eu comisiynu i weithio gyda’r gymuned leol i ymateb i hanes Robert Owen a chynhyrchu testun a fydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r gwaith.
Mae cystadleuaeth gerflunio leol i bobl ifanc ar y cyd â Celf Canol Cymru (Mid Wales Arts Center) wedi cynhyrchu rhai darnau eithriadol trwy archwilio bywyd a gwaith Robert Owen. Mae’r cerfluniau hyn ar gael i’w gweld ar hyn o bryd yn Amgueddfa Robert Owen a byddant yn symud yn i Oriel Davies Gallery yn mis Mawrth a gwahoddir y cyhoedd i bleidleisio dros eu hoff cerflun.
Mi fydd llwybr realiti estynedig (augmented reality trail) yn cael ei ryddhau yn y Drenewydd a fydd yn adrodd stori Robert Owen drwy 6 – 8 stop ‘ddigidol’. Bydd perfformwyr o gwmni theatr o'r Drenewydd yn rhan o'r ffilmiau a ddefnyddir o fewn yr ap.
Mae cefnogaeth wedi ei roi i ddiweddaru Amgueddfa Robert Owen yn y Drenewydd gan gynnwys arddangosfeydd wedi’u hadnewyddu a fydd yn ddwyieithog am y tro cyntaf hefo disgrifiad eang o’i fywyd. Penodwyd Swyddog Allgymorth i weithio hefo’r ysgolion lleol am gyfnod hefyd.
Roedd Robert Owen yn wneuthurwr tecstilau, yn ddyngarwr ac yn ddiwygiwr cymdeithasol a aned yn y Drenewydd, Powys 250 mlynedd yn ôl. Mae syniadau Owen am weithgynhyrchu egwyddorol, addysg ieuenctid a gofal plant meithrin, a’r pwysigrwydd o gymuned yn atseinio gyda ni ddwy ganrif a hanner yn ddiweddarach.
Fodd bynnag, bydd y prosiect hwn, sy’n seiliedig ar etifeddiaeth Robert Owen, yn dangos adlewyrchiad cyflawn o bob agwedd o’i hanes gan, gynnwys yr ochrau mwy anodd.
Er gwaethaf ei syniadau blaengar, ni wrthwynebodd Robert Owen barhad caethwasiaeth a'r defnydd o nwyddau o blanhigfeydd America. Mae'r diwydiant y gwnaeth ei arian ohono yn cyflwyno pryderon cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol ac mae gan lawer o'r pynciau hyn berthnasedd cyfoes, o gaethwasiaeth, llafur plant, ‘sweat shops’, anghydraddoldebau a chamfanteisio, i erydiad tir a ffasiwn cyflym (throwaway fashion); mae stori tecstilau yn holi llawer o gwestiynau ac yn pryfocio dadlau.
Nid yw'r prosiect hwn yn ceisio ailysgrifennu hanes, yn hytrach mae'n ceisio sicrhau ei fod yn cael ei adlewyrchu'n briodol. Yn dangos unigolion fel yr oeddent; y da gyda'r drwg.
Mi fydd prosiect Robert Owen 250 yn cynnig cyfle i drigolion y Drenewydd a’r gymuned leol i ystyried ac i weld etifeddiaeth Robert Owen mewn ffyrdd newydd.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys, Cyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn ac Amgueddfa Robert Owen. Cefnogir y prosiect hefyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Davies a Race Council Cymru.
Am wybodaeth pellach am y prosiect, cysylltwch ag Oriel Davies.