Cymraeg

Digwyddiadau Tymhorol

Wrth i ni symud tuag at ganol y gaeaf rydym yn paratoi rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â ni at ein gilydd, gan ddathlu llawenydd creadigrwydd.

Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 6 - 8pm Cynnau Goleuadau'r Drenewydd a Phentref Gaeaf - o flaen yr oriel. Mae digwyddiad eleni yn ystyriol o’r amgylchedd gyda gorymdaith feiciau wedi’i goleuo drwy ganol y dref yn cyrraedd y Pentref Gaeaf – cyfres o iyrtiau hyfryd lle gall ymwelwyr fwynhau gweithgareddau a gweithdai teuluol, cerddoriaeth a gwin cynnes. Dewch o hyd i ni yn y gweithdy iwrt yn creu addurniadau Nadolig o ddeunyddiau naturiol wedi'u hail-bwrpasu. Bar talu a chaffi ar agor gan gynnwys seidr lleol cynnes. r

Dydd Gwener 2 Rhagfyr 5 - 7pm Digwyddiad Agoriadol Tobias a'r Angel fel rhan o Daith Campwaith yr Oriel Genedlaethol. Ymunwch â ni a chwrdd â rhai o’r artistiaid sydd wedi ymateb i gampwaith y Dadeni hwn. Bar Talu a Chaffi ar agor

Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 1.30 - 3pm Gweithdy Canu - ymunwch â'r cerddor Charlotte Woodford i ganu yn yr oriel wedi'i hamgylchynu gan gelf gyfoes a phaentio o'r Dadeni Tobias a'r Angel. Bydd Charlotte yn helpu cyfranogwyr i greu cân wreiddiol. Seidr lleol cymysg ar werth gyda rhoddion ar gyfer y gweithdy i Gôr Hafren. Am fwy o wybodaeth ac i archebu dilynwch y ddolen https://orieldavies.org/whats-...

Porwch yn ein SIOP tra byddwch yn ymweld am anrhegion, cardiau ac addurniadau a ddewiswyd yn ofalus gan wneuthurwyr annibynnol ledled Cymru a’r Gororau. Dydd Marwth - Dydd Sadwrn 11am - 4pm.

Published: 14.11.2022