Cerflun Llwybr Crwydro Caeau Trehafren gan John Merrill
Comisiynwyd gan Open Newtown
Galwch heibio i Oriel Davies i weld y modelau sydd wedi'u creu gan y cerflunydd John Merrill fel camau cyntaf cerflun a gomisiynwyd ar gyfer Caeau Trehafren gerllaw yn y Drenewydd.
Bydd y cerflun yn cael ei osod yn Hydref 2025, gan ymateb i'r parcdir ac Afon Hafren. Mae'r gwaith yn cael ei gynllunio ar y cyd â'r gymuned leol.
Astudiodd John Merrill Gerflunwaith Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl. Mae'r rhan fwyaf o'i waith wedi'i wneud o dderw, gan ddefnyddio naill ai coed a chwythir gan y gwynt neu'r cromliniau a'r migyrnau a fyddai fel arall yn goed tân, wedi'u hachub o'r diwydiant coed.

“Oak Trees in their natural form are magnificent; they are already perfect sculptures and an example of one of nature’s true engineering achievements. I am simply recycling that sculpture once it’s been decommissioned, re-interpreting it as an object to stimulate new conversations. I have found great inspiration from the Welsh landscape and sourced materials from its ever-changing woodlands.”
Mae'r cerflun yng Nghaeau Trehafren yn rhan o brosiect ehangach a gyflwynir gan Open Newtown, a ariennir gan y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd. Mae'r prosiect wedi creu dros 700 metr o lwybrau sy'n addas ar gyfer cerdded, defnyddio olwynion a beiciau, byrddau dehongli newydd, dolydd wedi'u gwella, plannu coed a gofal perllannau.
Bydd cerflun John yn ychwanegu haen arall at brofiad ymwelwyr, gan ddathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol y parc a'r afon wrth ategu gwelliannau ehangach y safle.Yn y briff gwreiddiol, gofynnwyd i'r artist ymateb i lên gwerin o amgylch yr afon a sut mae hyn yn cysylltu treftadaeth naturiol a dynol.
“The inspiration for this sculpture came from a family of swans on the River Severn during an early site visit. The Swan is steeped in mystery and folklore, associated with ideas of love, purity and fidelity, transformation, shapeshifting, wisdom, truth.”
Rhannwch eich barn am y cerflun a'r prosiect ehangach yma
(copïau ar-lein neu bapur ar gael yn yr oriel)


