Cymraeg

Dwi'n Caru Y Drenewydd!

Ein Drenewydd! Cystadleuaeth Celf Fawr

I ddathlu popeth sy’n wych am ein tref, ac i nodi cyhoeddi “Ein Tref, Ein Cynllun: Cynllun Lle’r Drenewydd a Llanllwchaiarn”, lansiodd Cyngor y Dref gystadleuaeth gelf, gan wahodd pobl leol i anfon lluniau yn dangos “Beth Dwi'n Caru Am Y Drenewydd”. Roedd y lluniau'n dangos eich hoff le i gerdded, chwarae neu gwrdd â ffrindiau neu hoff adeilad neu le i ymweld ag ef. Neu efallai llun o berson sy'n gysylltiedig â'r Drenewydd. Mae “Ein Tref, Ein Cynllun: Cynllun Lle Y Drenewydd a Llanllwchaiarn 2021-2036” yn gynllun 15 mlynedd ar gyfer dyfodol y dref. Fe’i lluniwyd gyda chyfranogiad 48 o sefydliadau lleol ac yn seiliedig ar dros 7,000 o sylwadau a syniadau gan y gymuned. I ddarllen y cynllun neu ddarganfod mwy ewch i: https://newtown.org.uk/consult...

Mae'r gweithiau celf buddugol yn cael eu harddangos ar hyn o bryd y tu allan i Oriel Davies.

Y Cynghorydd Arweiniol ar gyfer y Cynllun Lle, y Cynghorydd Richard Edwards: “Mae popeth am Gynllun Lle’r Drenewydd yn fawr! O’r holl dystiolaeth a gasglwyd, i’r swm enfawr o amser ac egni a gyfrannodd y gymuned i’w gyflawni. Mae “Ein Tref, Ein Cynllun” yn dangos ffordd ymlaen i greu tref y mae pobl eisiau byw, gweithio ac ymweld â hi.


Published: 24.02.2022