GALWAD AGORED - Comisiwn ysgrifenwyr ifanc
Mae gennym wyth comisiwn £100 i bobl ifanc gyfrannu darn o ysgrifennu creadigol i’n prosiect ‘Cynulliad ODG’, a chael eu gwaith wedi’i cynnwys fel rhan o arddangosfa deithiol Craftspace ‘We are Commoners’.
→ Ydych chi rhwng 18 - 25 oed?
→ Ydych chi'n byw yn Powys?
→ Ydych chi am ddatblygu'ch ysgrifennu a chael platfform i rannu'ch gwaith?
Beth yw'r comisiwn hwn?
Rydym wedi gwneud nifer o gynlluniau gwahanol yn 2020 ar gyfer y prosiect ‘Cynulliad ODG’ nad ydym wedi gallu eu gwireddu oherwydd nifer o amgylchiadau. Roedd yr holl gynlluniau hyn yn seiliedig ar y syniad o gynulliad ieuenctid Oriel Oriel Davies sy'n cefnogi pobl ifanc i wneud ymchwiliadau creadigol i faterion pwysig iddynt, datblygu cysylltiadau, a defnyddio'r oriel mewn ffordd newydd.
Fydd y cynlluniau sydd heb eu gwireddu yn sail i’ch darn o ysgrifennu creadigol. Bydd ysgrifenwyr a gomisiynir yn ysgrifennu darn creadigol mewn ymateb i weithgaredd ‘Cynulliad ODG’ sydd heb ei wireddu. Bydd y darn o ysgrifennu creadigol yn dod â'r cynlluniau hyn i fyw trwy dychmygu sut y byddent yn brofiadol o safbwynt person ifanc.
Rydym yn eich gwahodd i ddychmygu posibiliadau am y cynlluniau sydd heb eu gwireddu trwy ysgrifennu darn creadigol am beth a allai fod wedi digwydd, a hyn y gellid fod wedi'i brofi. Trwy’r dull hwn rydym yn gobeithio dysgu am eich diddordebau, eich anghenion a’ch uchelgeisiau a defnyddio’r darn o ysgrifennu creadigol hyn i lunio dyfodol y ‘Cynulliad ODG’.
Mae ein cynlluniau wedi cael eu gohirio, ond mae potensial i chi a’ch darn o ysgrifennu creadigol.
Cefndir y prosiect
Mae ‘ODG Assembly’ yn brosiect y mae’r dylunydd Hefin Jones wedi bod yn ei ddatblygu yn 2020 gydag Oriel Davies fel rhan o’i gyfnod preswyl. Mae Craftspace yn partner i Oriel Davies ar gyfer y cyfnod preswyl a bydd y gwaith a gynhyrchir yn ystod y comisiwn hwn yn rhan o brosiect 'Cynulliad ODG' ac arddangosfa deithiol Craftspace o'r enw 'We are Commoners' - arddangosfa deithiol a gŵyl genedlaethol sy'n canolbwyntio ar thema crefft a'r comin.
Gwahoddir pob ysgrifenwyr a gomisiynir i olwg preifat yr arddangosfa ‘We are Commoners’ a bydd eu gwaith yn cael ei gredydu ar draws yr arddangosfa, argraffu copiau a’r wefan.
I bwy mae'r comisiwn hwn yn agored?
Unrhyw un rhwng 18 a 25 oed sydd wedi'i leoli yn Powys, ac sydd â diddordeb mewn datblygu ei ysgrifennu trwy'r prosiect hwn.
Rydym yn croesawu diddordeb gan bob lefel o brofiad, gan bobl sydd newydd ddechrau i'r rhai sydd wedi bod yn ysgrifennu am gyfnod, neu'r rhai sydd wedi rhannu eu hysgrifennu'n gyhoeddus i'r rhai sydd bob amser wedi ei gadw'n breifat.
We are particularly interested in hearing from people who are underrepresented in current arts and culture. This includes, but is not limited to, writers of colour, disabled writers, LGBTQIA+ and non-binary writers, and working-class writers.
Sut i wneud cais?
Os hoffech wneud cais, e-bostiwch ODGTeam@OrielDavies.org gyda'ch manylion cyswllt (enw, oedran ac ardal - nid yw'r union gyfeiriad yn angenrheidiol), ynghyd ag enghraifft o'ch ysgrifennu ar unrhyw ffurf ysgrifennu (ffuglen, ffeithiol, creadigol, barddoniaeth, newyddiaduraeth, sgriptiau, ac ati). Gallai'r enghraifft hon fod yn destun yn yr e-bost ei hun, wedi'i atodi fel PDF, neu'n ddolen i wefan allanol neu recordiad.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, dydd Llun 4ydd Ionawr 2021.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag ODGTeam@OrielDavies.org
Pryd mae'r dyddiadau allweddol?
Llinell Amser a Phroses
5pm, dydd Llun 4ydd Ionawr 2021 - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
8fed Ionawr 2021 - Hysbysu pob person am y penderfyniadau.
11eg Ionawr 2021 - Cyfarfod ar-lein rhwng yr ysgrifenwyr a gomisiynwyd, Hefin Jones a staff Oriel Davies
1af Chwefror 2021 - Dyddiad cau ar gyfer darn o ysgrifennu creadigol
Yn dilyn cyflwyno'r darn ysgrifennu creadigol gan yr ysgrifenwyr a gomisiynwyd, bydd Hefin Jones yn fformatio popeth fel rhan o'r arddangosfa a'r cyhoeddiad cysylltiedig. Nid yw’n ofyniad gan y comisiwn ond bydd cyfleoedd i’r ysgrifenwyr fod yn rhan o’r broses hon os oes ganddynt ddiddordeb.
Ymateb ac Adborth
Byddwn yn e-bostio pawb i roi gwybod iddynt am ganlyniad eu cais. Oherwydd ymrwymiadau amser, ni fyddem yn gallu cynnig adborth ar bob cais, ond byddwn yn ymdrechu i wneud amser os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyfleoedd eraill yn Oriel Davies a phrosiectau eraill i gymryd rhan ynddynt.