Caffi | Cafe
Rydyn ni'n gwneud coffi anhygoel!
Mae'r caffi wedi dod yn rhan annatod o'r oriel a'n rhaglen unwaith eto. Ein bwriad yw bod elw caffi yn cefnogi ein rhaglen, ond mae hyn yn cael ei effeithio gan yr economi.
Mae hyn wedi ein gorfodi i ailfeddwl am y caffi ac, o ddiwedd mis Mawrth, byddwn yn dychwelyd at y model gwreiddiol o weini diodydd, cacennau a thost yn unig. Mae hyn oherwydd y cynnydd mewn costau ar gyfer cynhwysion amrwd, staffio (rydym yn talu Cyflog Byw teg i’n staff) ac ynni.