Sut mae'r celfyddydau'n pweru Cymru iachach
Effaith Flynyddol o £588 Miliwn ar Iechyd a Chynhyrchiant
Mae ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Bangor yn amcangyfrif bod gwerth ariannol manteision iechyd a chynhyrchiant drwy ymgysylltu â'r celfyddydau yng Nghymru o leiaf £588m y flwyddyn.

Mae ymchwil newydd i gelfyddydau ac iechyd yng Nghymru yn tynnu sylw at y rôl y gall gweithgaredd creadigol ei chwarae wrth atal afiechyd a lleihau pwysau ar wasanaethau gofal iechyd. Gallai rhaglen ddawns sy'n canolbwyntio ar gryfder a chydbwysedd, er enghraifft, arbed hyd at £5 miliwn y flwyddyn mewn costau gofal iechyd drwy helpu i atal cwympiadau ymhlith pobl hŷn.
Darllenwch yr adroddiad llawn i archwilio'r dystiolaeth y tu ôl i'r canfyddiadau hyn.
