Blwyddyn Newydd Dda!
Rydym ar agor!
Efallai ei bod hi'n oer ond gallwch chi bob amser ddisgwyl croeso cynnes yn Oriel Davies.
Y llynedd, fe wnaethon ni alw am ddelwedd i ddathlu cynhwysiant ac amrywiaeth ar ein prif ddrws. Mae gwaith Llŷr Evans yn mynegi rhywbeth gwirioneddol ddwfn: Cariad diamod rhiant a phlentyn. Cyfnewidiodd Llŷr ddillad gyda'i dad ar gyfer y llun. Gwelsom adleisiau o'r Capel Sistine ym mynyddoedd Eryri, a'r croeso cynnes OD i bawb wrth i'r drysau agor.

