Grŵp cymunedol yn creu plannwr ar gyfer pryfed peillio
Mae'r plannwr yn ddeniadol ac wedi'i blannu â phlanhigion a pherlysiau synhwyraidd a meddyginiaethol i'r gymuned gyfan eu mwynhau
Mae grant gan gronfa gymunedol Cyngor Tref y Drenewydd wedi galluogi Oriel Davies Gallery i greu cynefin planhigion hardd ar gyfer gwenyn a phryfed peillio eraill. Gan weithio gydag aelodau o'r Sied ym Mhen-Dinas, garddwyr cymunedol a gwirfoddolwyr, creodd yr oriel friff ar gyfer plannwr wedi'i adeiladu'n gynaliadwy. Wedi'u hysbrydoli gan y dylunydd Eidalaidd Enzo Mari mae aelodau o The Shed a chydlynydd y prosiect Frank Corfield wedi creu plannwr aml-lefel gyda nodwedd dŵr wedi'i wneud o bren, metel a chyfansoddion wedi'u hadfer. Mae Garddwr Cymunedol yr oriel, Mel Chandler, a gwirfoddolwyr wedi llenwi’r plannwr 3 x 1m gyda gardd fach o beillwyr. Bydd y cymysgedd o blanhigion yn denu amrywiaeth o bryfed ac adar ac ymhen amser bydd yn creu ei eco-system ei hun. Mae'r nodwedd ddŵr hefyd yn bwysig iawn ar gyfer denu bywyd gwyllt.
Mae'r plannwr yn ddeniadol ac wedi'i blannu â phlanhigion a pherlysiau synhwyraidd a meddyginiaethol i'r gymuned gyfan eu mwynhau - ar gyfer pobl sy'n cerdded heibio ac ymwelwyr â'r oriel. Ymunodd y Maer Mike Childs ag aelodau'r gymuned i weld y plannwr.