Cymraeg

Innovate UK yn Oriel Davies

Yr wythnos diwethaf cawsom oriel lawn wedi'i llogi ar gyfer cynhadledd dan arweiniad Innovate UK ar thema cydweithio cynaliadwy ar draws sectorau.

Roedd y digwyddiad yn rhan o Raglen Byw Net Sero Innovate UK a Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Y nodau oedd archwilio sut i feithrin cydweithio cynaliadwy ar draws gwahanol sectorau yng Nghymru.

Rhodon ni un o'n camerâu gwib i'r tîm ac fe wnaethon nhw dynnu'r lluniau hyn drwy gydol y dydd!

Galwch heibio i'r oriel os hoffech chi roi cynnig ar un o'r camerâu gwib sydd gennym ni!

Innovate UK

Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi unrhyw un o'n mannau yma yn Oriel Davies, darganfyddwch fwy yma neu cysylltwch â ni drwy desk@orieldavies.org neu 01686 625041

Published: 16.07.2025