Making Merrie: A Mummers Modern
Fe wnaethom nodi’r heuldro gyda chymysgedd rhyfedd ac arbrofol o sain, symudiadau byrfyfyr, a basgedi, wedi’u hysbrydoli gan draddodiad Mwmian, o feddwl y gwneuthurwr basgedi abswrdaidd, Lewis Prosser.
Roeddem mor falch o fod yn rhan o'r perfformiad byrfyfyr gwych hwn. Diolch yn fawr iawn i Lewis a’r perfformwyr am ddod â’r gwisgoedd bendigedig yn fyw, ac i David Grubb a Darren Eedens am y gerddoriaeth fyw syfrdanol, gan symud rhwng alawon traddodiadol ac ymatebion byrfyfyr i’r symudiad. Diolch i bawb yn Hafan Yr Afon am fod yn westeion mor wych a chefnogol. Ac yn olaf ond nid yn lleiaf, diolch i bob un ohonoch am ddod allan i ddathlu’r heuldro gyda ni.
Roedd yn bleser mynd â’r perfformiad allan ar strydoedd y Drenewydd a gobeithio eich bod chi i gyd wedi mwynhau!
Edrychwn ymlaen at groesawu Lewis yn ôl i’r Drenewydd eto yn fuan.
Credyd Llun - Ellie Evelyn Orrell

