Cymraeg

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Yma yn Oriel Davies rydym yn credu'n angerddol ym mhŵer y celfyddydau i gysylltu â natur a gwella lles.

Ymunodd Oriel Davies Gallery â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Open Newtown a Plant Life i gynnal cyfres o weithdai creadigol am ddim rhwng mis Mai a mis Gorffennaf i bobl oedd yn profi heriau gyda'u hiechyd meddwl. Ariannwyd y prosiect hwn - Clwb Crefft - gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Clwb Crefft yn seiliedig ar fodel lles celfyddydau a natur a ddatblygwyd gan Oriel Davies gydag ymarferwyr creadigol yn gweithio gyda sgiliau crefft traddodiadol i gefnogi lles oedolion yng Ngogledd Powys.

Cynhyrchodd yr animeiddiwr Efa Blosse-Mason animeiddiad byr meddylgar yn seiliedig ar adborth gan un o gyfranogwyr y prosiect.

Published: 15.05.2026