Cymraeg

Preswyliad Bach

Artist preswyl yn Ysgol Feithrin Derw Bach gyda Sue Hunt

Rwy’n hoffi creu pethau gyda’r dail

Roeddwn i’n hoffi gwasgu’r clai

Roeddwn i’n hoffi gwneud lot o bethau

Gweithiodd ysgol feithrin Derw Bach gyda’r artist preswyl Sue Hunt yn y feithrinfa, yn Oriel Davies ac ym mharcdir y Drenewydd. Ysbrydolwyd y plant gan baentiadau ar fenthyg gan Gasgliad Cyfoes, Amgueddfa ac Oriel Gelf Genedlaethol, Caerdydd.
Fe wnaeth cyllid ar gyfer y cyfnod preswyl gan CELF: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru alluogi'r artist, yr oriel a'r ysgol feithrin i feithrin perthynas wrth ymgymryd â'r cyfnod preswyl.

Mae Ysgol Feithrin Derw Bach o fewn pellter cerdded i'r Oriel ac maent yn ymwelwyr cyson; maent bob amser yn dychwelyd i'r lleoliad i ymateb i'r hyn a welwyd yn ein harddangosfeydd.

Gwnaethom ddau ymweliad â Derw Bach ymlaen llaw a chyfarfod â Sue ar-lein i drafod y cynnwys a'r cynlluniau. Cawsom wybod ym mha gyfnod o ddysgu a datblygu roedd y plant, a sut mae staff yr ysgol feithrin yn creu amgylchedd meithringar, diogel ac ysbrydoledig lle mae gweithgareddau yn cael eu harwain gan y plant.

Ffotograffau gan Grace Springer

Mae rhagor o blant bellach yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol gan gynnwys y rhai nad oedd ganddyn nhw ddiddordeb o’r blaen, rhai yn trosglwyddo sgiliau/gwybodaeth i waith coed a marcio a chwarae awyr agored
Sarah Rowlands Rheolwraig yr Ysgol Feithrin

Mae Sue Hunt yn arlunydd sy'n gweithio yng Nghaerdydd, ac arddangosodd waith yn ein harddangosfa *Dialogue* – rhan o arddangosfa CELF – ochr yn ochr ag artistiaid Cymreig cyfoes eraill a gweithiau a fenthycwyd o Gasgliad Davies a'r Casgliad Cyfoes yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Rhoddodd dull hael a meddylgar Sue o ymgymryd â'r cyfnod preswyl gyfle i blant archwilio ac arbrofi gyda phrosesau newydd a chynhwysol. Nid oedd un ffordd gywir o wneud pethau; gwerthfawrogwyd a dathlwyd pob cyfraniad creadigol.

Mae’r plant wedi datblygu sgiliau nid yn unig gyda’r celfyddydau mynegiannol ond hefyd mewn iaith, personol a chymdeithasol, rhifedd, iechyd a lles, gwyddoniaeth a dealltwriaeth o’r byd
Sarah Rowlands Rheolwraig yr Ysgol Feithrin

Cafodd y cyfnod preswyl ei ddogfennu gan y ffotograffydd Grace Springer, a chafodd y dyluniadau ar gyfer ein gofod arddangos awyr agored eu creu gan Joby o Colour Format. Argraffodd Welshpool Print Group y dyluniadau ar raddfa fawr.

Published: 10.08.2026