Cymraeg

Galwad agored am aelodau annibynnol i ymuno ag Is-grŵp y Rhanddeiliaid

Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru

Dyddiad cau ymgeisio - hanner dydd, ddydd Gwener 9 Chwefror 2024

Mae'r Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am bobl sydd ag ystod o brofiad ac arbenigedd i ymuno ag Is-grŵp y Rhanddeiliaid. Nod yr Is-grŵp yw cefnogi a rhoi golwg ar ymgysylltu â’r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru gan y sector a’r cyhoedd.

Mae sefydlu’r Oriel yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Bydd ganddi'r potensial i gyflawni manteision strategol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a gwahanol bolisïau cysylltiedig gan gynnwys addysg, economi ac iechyd.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn cydweithio i ddatblygu ffyrdd o’i llywodraethu, ei rheoli a’i chyflawni.

Byddai’r Oriel yn gallu cynnig canolbwynt i artistiaid, cymunedau gweledol ledled Cymru a chynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd Is-grŵp y Rhanddeiliaid yn helpu i lywio'r gwaith.

Cyngor Celfyddydau Cymru fydd yn cadeirio’r Is-grŵp ac ymhlith yr aelodau bydd ymarferwyr creadigol, cynrychiolwyr o'r diwydiannau diwylliannol ehangach a chyrff twristiaeth.

Nod yr alwad agored yma yw recriwtio 5 aelod annibynnol.

Dyddiad cau: hanner dydd, ddydd Gwener 9 Chwefror 2024

Cais drwy CV a llythyr egluro byr (500 gair ar y mwyaf) am ofynion y gwaith a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, fel nodyn llais neu fideo Arwyddeg, cysylltwch â ni yn gyntaf.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl a grwpiau diwylliannol ac ethnig amrywiol a rhai nad oes ganddynt ddigon o gynrychiolaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg a byddwn yn cysylltu â chi yn eich dewis iaith.

Mae manylion llawn yn y Pecyn Recriwtio mae modd ei lawrlwytho isod, a'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gael yma.

Am ragor o wybodaeth neu am gael trafod y cyfle’n anffurfiol, cysylltwch â louise.wright@celf.cymru

Published: 17.01.2024