Cymraeg

Heddiw yw Dydd Miwsig Cymru - Welsh Language Music Day.

Beth am ddathlu drwy archebu lle yn un neu fwy o’r digwyddiadau cerddoriaeth Gymraeg gwych AM DDIM sydd gennym ar y gweill fel rhan o Croeso Cynnes!

YFORY 10.02.2024 - Bydd Billy Maxwell Taylor a Marla King yn archwilio gofodau orielau Oriel Davies trwy recordiadau maes Cymreig, troslais, cerddoriaeth amgylchynol a dawns weadol.

17.02.2024 - Rydym yn gwahodd Daniel Davies a’i Sielo i’r Oriel i ymateb yn gerddorol i arddangosfa gyfredol Artes Mundi 10 Carolina Caycedo.

01.03.2024 (yn ystod y dydd) - Bydd Jason Ball ac Aidan Thorne yn archwilio cerddoriaeth werin Gymreig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi gydag elfennau o fyrfyfyr, jazz a minimaliaeth

01.03.2024 (noswaith) - Telyn Tales, Sioe llawn chwedlau gwerin hyfryd gyda cherddoriaeth draddodiadol a gwreiddiol yn dathlu'r delyn yng Nghymru

22.03.2024 - Gareth Bonello aka The Gentle Good, un o'r cyfansoddwyr caneuon mwyaf blaenllaw yng Nghymru heddiwAm fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle ewch i - https://orieldavies.org/whats-on

Published: 09.02.2024