Cymraeg

Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd

Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â Bwrdd Oriel Davies i helpu i lunio dyfodol yr oriel.


Hoffem glywed gan unigolion o gefndiroedd amrywiol sydd â diddordebau, sgiliau a mewnwelediadau sy’n berthnasol i’n gwaith. Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch i fod yn ymddiriedolwr, ond rhaid i chi fod yn ymroddedig i werthoedd Oriel Davies Gallery, gan gynnwys:

1. Mynediad cyfartal a hael i gelfyddyd a diwylliant

2. Gweithio gydag artistiaid, dylunwyr, gwneuthurwyr a phobl greadigol eraill er budd ein cymuned a'r amgylchedd

3. Datgloi talent gudd a hyrwyddo amrywiaeth greadigol


Mae gennym ddiddordeb mewn potensial ac rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl sy’n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, ifanc, anabl, LGBTQI+.

Mae Oriel Davies Gallery hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant a’r iaith Gymraeg, a’n nod yw cryfhau sgiliau Cymraeg ein Hymddiriedolwyr. Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn arbennig.

Rydym hefyd yn chwilio am ymddiriedolwyr sydd â phrofiad/sgiliau yn y meysydd canlynol:

- Cyllid a Chyfrifyddu

- Adnoddau Dynol

- Ymarfer creadigol, gan gynnwys celf, dylunio, crefft, ffilm, digidol

- Cyfathrebu, gan gynnwys cysylltiadau â'r cyfryngau, marchnata, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus

I ddarganfod mwy, cliciwch yma

Published: 12.01.2024