Published on Dydd Gwener 14th Ionawr 2022 at 8:46 YB
Ysgrifenwyr! Er gwaethaf ei syniadau blaengar niferus, roedd Robert Owen yn ddyn ei gyfnod. Mae gan y diwydiant tecstilau bryderon cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol ac mae llawer o'r materion hyn yn berthnasol i'r cyfoes. O gaethwasiaeth, llafur plant, siopau chwys, anghydraddoldebau a chamfanteisio i erydiad tir a ffasiwn taflu i ffwrdd mae stori tecstilau yn agor llawer o gwestiynau a dadlau. Rydym yn chwilio am awdur o liw sydd am archwilio rhai o’r syniadau hyn, i greu cerdd neu delyneg fer sy’n archwilio etifeddiaeth Robert Owen. Bydd yr awdur yn cyfarfod â phlant ysgol neu grwpiau cymunedol penodol i rannu eu profiad o ddarllen ac ysgrifennu ym mis Chwefror ac annog pobl i ysgrifennu rhywbeth hefyd. Bydd y gwaith yn cael ei gynnwys mewn prosiect celf cyhoeddus a fydd yn cael ei ddadorchuddio ym mis Mai 2022
Faint: £1750 (Yn seiliedig ar £250 y dydd). Gwnewch gais trwy e-bost at steffan@orieldavies.org erbyn 23/01/22 (pwnc “writer”)
Read more about YSGRIFENWYR!