Cymraeg

Holiadur ar gyfer Ymwelwyr Oriel

Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gymryd ychydig funudau i gwblhau holiadur byr ar-lein


Mae Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae wedi comisiynu Innovation Partnership i werthuso prosiect CELF. Mae'r prosiect wedi rhoi arian i naw oriel yng Nghymru. Bydd yr arian yn sicrhau safonau diogelwch boddhaol ar gyfer benthyciadau o weithiau celf gwerthfawr o'r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes. Bydd hefyd yn hwyluso gwelliannau eraill i'r safle. Y nod yw ehangu mynediad i'r casgliad cenedlaethol ledled Cymru.

Fel rhan o'r gwerthusiad, rydym yn gofyn i ymwelwyr ag orielau sy’n aelodau o GELF. Rydym am gasglu tystiolaeth o gyflawniad ac effaith gynnar a’ch barn a'ch awgrymiadau am waith CELF yn y dyfodol i wella profiad yr ymwelwyr.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gymryd ychydig funudau i lenwi’r holiadur byr ar-lein:

Fersiwn Saesneg

Fersiwn Cymraeg

Llenwch yr arolwg erbyn 30 Ebrill 2025. Bydd yn cymryd llai na 10 munud. Bydd pob ymatebydd yn cael ei gynnwys mewn raffl i ennill gwobr gwerth £50.

Bydd pob ymateb yn gyfrinachol ac yn cydymffurfio'n llawn â Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data. Ni fydd CELF na neb arall yn gweld ymatebion unigol. Rydym hefyd wedi atodi ein Datganiad o Breifatrwydd.

Os hoffech ateb yr arolwg dros y ffôn neu ar-lein gyda'n Cyfarwyddwr Gwerthuso, Nigel Woodruff, e-bostiwch tipl@innopartners.com i drefnu amser cyfleus.

Diolch yn fawr am eich cyfraniad.

Published: 15.05.2025