‘Sector y Celfyddydau ym Mhowys a’r Argyfwng Byd Natur’
Gwahoddwyd y tîm yma yn Oriel Davies i ymchwiliad cydweithredol dan arweiniad yr arloesol Julie’s Bicycle (‘symud y celfyddydau i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a natur’) yng Ngregynog ddoe.
Ynghyd â chynrychiolwyr o sectorau’r celfyddydau a’r amgylchedd ym Mhowys buom yn archwilio ffyrdd posibl o ddatblygu rhwydwaith i gefnogi ein gilydd yn ein gwaith.
Cafwyd llawer o drafodaethau diddorol ar ystod eang o bynciau - creadigrwydd, hinsawdd, bioamrywiaeth, cymuned a llawer mwy.