Plannu coed yn Oriel Davies
"Y pryd gorau i blannu coeden oedd ugain mlynedd yn ôl. Yr ail bryd gorau yw nawr."
Plannodd Mel a’n tîm gwirfoddolwyr garddio yr ail o ddwy goeden geirios y tu allan i’r oriel ddoe. Defnyddiwyd ein compost ein hunain o’n biniau compostio poeth hefyd.
Diolch i Open Newtown am roi’r coed a’r gwarchodwyr coed.
Edrychwn ymlaen at weld y coed hyn yn tyfu am flynyddoedd i ddod.
Hoffech chi helpu i ofalu am ein mannau gwyrdd?
Beth am ymuno â'n tîm garddio cymunedol!
Mae ein gwirfoddolwyr garddio yn cyfarfod y tu allan i'r oriel y rhan fwyaf o ddyddiau Iau.
Anfonwch e-bost at desk@orieldavies.org gyda'r testun 'Gardening Volunteer' i gael rhagor o wybodaeth.


