Diweddariad - Tân yn yr Oriel
Fel mae rhai ohonoch efallai’n ymwybodol, fe gawson ni dân yn yr oriel yr wythnos diwethaf.
Diolch byth roedd y gwasanaethau brys wrth law yn gyflym i gadw'r sefyllfa dan reolaeth, ac yn bwysicaf oll mae pawb yn iawn.
Bydd yn rhaid i ni gymryd amser nawr i asesu maint y difrod, ond rydym yn gobeithio nad yw'n fawr.
Yn amlwg bydd hyn yn effeithio ar ein cynlluniau i ailagor felly dilynwch am ddiweddariadau pellach a byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y gallwn.
O’r tîm yma yn Oriel Davies, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i gyd yn ôl yn fuan!
