Cymraeg

Croeso Cynnes Warm Welcome

Mae Oriel Davies yn croesawu ymwelwyr i’r oriel i brofi a mwynhau perfformiadau, gweithdai a digwyddiadau cymunedol y gaeaf hwn.

Mae Croeso Cynnes yn brosiect cymunedol gyda lles yn ganolog iddo.

Nod y prosiect yw mynd i'r afael ag arwahanrwydd personol a mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw dros fisoedd y gaeaf. Mae gweithgareddau am ddim ac yn agored i bobl ifanc, oedolion a theuluoedd.

Bydd perfformiadau anffurfiol gyda cherddorion, artistiaid symud a chantorion Cymreig yn cael eu cynnal ar sesiynau Hwyr nos Wener bob mis ac yn ystod y dydd.

Gellir archebu gweithdai ystyriol i oedolion a chânt eu cynnal dros bedair sesiwn wythnosol, gan gefnogi lles trwy symud a chrefft.

Bydd diwrnodau cymunedol yn cynnig amser i gysylltu ag eraill dros fwyd, sgwrs a sesiynau creadigol yn seiliedig ar natur.

I gael manylion am weithgareddau sydd i ddod ewch i'n gwefan https://orieldavies.org/cy/wha...

Mae Croeso Cynness yn rhedeg o fis Ionawr i fis Mawrth 2024 ac mae’n dilyn rhaglen lwyddiannus o weithgareddau’r gaeaf diwethaf wedi’i chefnogi’n hael gan gyllid torfol a’r COOP UK.

Ariennir Croeso Cynnes 2024 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Published: 04.01.2024