Cymraeg

Straeon Y Gaeaf

Straeon, mythau a chwedlau o Gymru a thu hwnt sy’n llenwi’r oriel y Gaeaf hwn. Ionawr – Mawrth 2023

Straeon, mythau a chwedlau o Gymru a thu hwnt sy’n llenwi’r oriel y Gaeaf hwn. Mae straeon, a berfformir yn Gymraeg a Saesneg a chaneuon a cherddoriaeth i gyfeiliant, yn ein cysylltu â phaentiad y Dadeni o Tobias a’r Angel (1470 - 75) a gwaith cyfoes yn ein sioe gyfredol, sy’n rhan o Daith Campweithiau’r Oriel Genedlaethol.

Mae storïwyr Mair Tomos Ifans, Jo Vagabondi and Deb Winter o Hyb Stori Mycelium yn rhannu straeon sy’n cael eu clywed yn llai aml o bob rhan o gymunedau amrywiol Cymru er mwyn sicrhau dyfodol y sector adrodd straeon yng Nghymru.

Am ddyddiadau, amseroedd a manylion ac i archebu unrhyw un o'n chwe pherfformiad ewch i https://orieldavies.org/cy/wha...

Published: 03.02.2023