Diwrnod gwych wedi'i dreulio gyda thîm a Bwrdd Ymddiriedolwyr Oriel Davies
Fel rhan o sesiwn greadigol ysbrydoledig gyda'r artist Nicky Arscott, cawsom gyfle i greu cyfres o fasgiau dychmygus, yn llawn chwareusrwydd, creadigrwydd a chymeriad.
Diwrnod gwych wedi’i dreulio gyda thîm a Bwrdd Ymddiriedolwyr Oriel Davies heddiw.
Fel rhan o sesiwn greadigol ysbrydoledig gyda’r artist Nicky Arscott, cawsom gyfle i greu cyfres o fasgiau dychmygus, yn llawn chwareusrwydd, creadigrwydd a chymeriad.
Fe wnaeth y gweithdy ein hannog i weld ein gilydd mewn ffordd wahanol, rhannu syniadau, a dathlu’r rôl y mae creadigrwydd yn ei chwarae ym mhopeth a wnawn.
Ac mae mwy i ddod... Rydym yn gyffrous i groesawu arddangosfa nesaf Nicky, *Tiny Gods*, i Oriel Davies y gwanwyn nesaf.

