Lansio Arddangosfeydd y Gaeaf
Ymunwch â ni ar gyfer dathliad o gelf, cyfnewid a phrofiadau a rennir
Nodwch y dyddiad yn eich dyddiaduron!
Ymunwch â ni ar 12 Rhagfyr ar gyfer dathliad o gelf, cyfnewid a phrofiadau a rennir.
Mae *Unruly: Expand* rhan 2, yn Oriel 2, yn dod â gwaith ynghyd gan artistiaid sy'n dod i'r amlwg o bob rhan o Gymru. Mae'r gwaith yn adlewyrchu eu profiadau fel gwarchodwyr ar gyfer *Sownd* yn Biennale Fenis 2026. Gan fod artistiaid gwahanol yn cael eu cynnwys yn y ddwy ran o *Unruly: Expand*, mae'r diwrnod hwn yn cynnig cyfle arbennig i weld yr holl artistiaid a fu'n gwarchod y gwaith gyda'i gilydd.
Yn Oriel CELF Davies, darganfyddwch waith newydd gan Emrys Williams yn yr arddangosfa *'what seas what shores what great rocks'*. Bydd y ddwy arddangosfa ar agor o 12 Rhagfyr tan 12 Chwefror.
Mae rhaglen y diwrnod hefyd yn cynnwys dangosiad parhaus o *Sownd [ar safle] [ar ffilm]* gan Liam Martin, sy'n dogfennu tri digwyddiad mewn mawnogydd yng Nghymru, wedi'u curadu gan Manon Awst a Dylan Huw.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu!
12yp – 3yp
Lluniaeth ysgafn
AM DDIM
Gobeithiwn eich gweld yno!
