Cymraeg

Dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr

Yr wythnos hon rydym yn dathlu ein tîm gwirfoddolwyr, gan gydnabod a diolch am yr amser a'r gefnogaeth maen nhw wedi'u rhoi i Oriel Davies.

Beth mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud?

Mae ein gwirfoddolwyr yn ymwneud ag amrywiaeth eang o weithgareddau.

Mae rolau gwirfoddolwyr yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, goruchwylio arddangosfeydd, cefnogi gweithdai, cefnogi digwyddiadau, a garddio. Maent yn rhan allweddol o dîm Oriel Davies gan greu amgylchedd croesawgar a gwella profiad yr ymwelwyr.

Mae ein gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant llawn ac yn cael eu cefnogi gan staff yr oriel bob amser. Mae Oriel Davies yn gadarnhaol ynglŷn â helpu unigolion i ddatblygu eu potensial.

Hoffech chi helpu i lunio dyfodol Oriel Davies? Oes gennych chi ddiddordeb mewn celfyddyd weledol ac wedi ymrwymo i wneud y profiad o gelf gyfoes ar gael i bawb? Ydych chi eisiau gwneud cyfraniad cadarnhaol i'n cymuned, i gymdeithas ac i'r amgylchedd? Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â Bwrdd Oriel Davies i helpu i lunio dyfodol yr oriel.

 diddordeb mewn darganfod mwy?

Cwblhewch Ffurflen Gwirfoddoli Mynegi Diddordeb a'i dychwelyd i'r oriel, neu galwch heibio i'r oriel, ffoniwch 01686 625041 neu e-bostiwch desk@orieldavies.org i ddarganfod mwy. Yna gallwn eich gwahodd i mewn am sgwrs anffurfiol a gallwch ddysgu mwy am y rolau gwirfoddoli sydd ar gael.

Dyma beth oedd gan Lowri, aelod allweddol o'n tîm, i'w ddweud.

"Ymunais â Thîm Oriel Davies fel gwirfoddolwr 5 mlynedd yn ôl. Fe wnaethon nhw fy nghroesawu â breichiau agored ac maen nhw wedi rhoi cyfleoedd anhygoel i mi. Rwyf bellach yn aelod cyflogedig o staff. Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nghynnwys, fy nerbyn ac yn teimlo'n rhan bwysig o Deulu cefnogol Oriel Davies. Mae fy hyder a'm hunan-barch wedi gwella'n aruthrol ers ymuno â'r tîm ac rwyf wedi datblygu sgiliau newydd - yn enwedig mewn TG, bod yn rhan o brosiectau, gweithdai, digwyddiadau a chyfleoedd yn yr iaith Gymraeg (mentora a chyfieithu a sgwrsio)."

Published: 03.06.2026