CWRIOS / AFREOLAIDD: Gweithgareddau creadigol wedi'u hysbrydoli gan Gymru yn Fenis
Clwb Celf Prynhawn Sadwrn
Mae artistiaid Ennyn wedi bod yn cynnal cyfres gyffrous o weithdai cynhwysol i blant 6-10 oed sy'n archwilio'r byd naturiol.
Mae'r gweithdai hyn yn gyfle gwych i blant dreulio amser yn dod i adnabod ei gilydd, gan weithio gydag artistiaid i feithrin ymwybyddiaeth ofalgar trwy greadigrwydd.
Arweiniodd Nicky Arscott ‘Slowly Slowly Said the Snail’ – gan archwilio paent yng nghwmni gwesteion llysnafeddog arbennig iawn!
A ‘Gondola of Fun’ – lle adeiladwyd cychod maint go iawn i'n cludo i Fenis ein dychymyg!
Arweiniodd Beth Clewes ‘Bog Beast Dig’ – cloddiad archeolegol bach i ddod o hyd i weddillion hynafol a rhoi stori bwystfil cors anghofioedig at ei gilydd!
Arweiniodd Liam Rickard ‘Prehistoric Powys’ – gan ddychmygu'r gorffennol trwy luniadu a cherfluniau papier-mâché.
Mae wedi bod yn gyfres wych o'r Clwb Celf ac mae dwy sesiwn arall i ddod!
Dilynwch ni am newyddion am y gyfres nesaf!

