Buddsoddiad lleol
Cafodd Oriel Davies ymweliad gan Dr Nicky Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwylliant, Llywodraeth Cymru yr wythnos hon.
Daeth i weld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn CELF, Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru, wedi’i wario yma yn y Drenewydd. Cyfarfu â'r rheolwr prosiect Hughes Architects a'r prif gontractwr Paveways. Rydym wrth ein bodd bod y buddsoddiad hwn wedi’i wneud gan bobl leol.
Byddwn ar agor eto yn fuan...
