RO250
Mae gwaith celf newydd ar gyfer y mannau gwyrdd ar ei ffordd
Y mis hwn bydd comisiwn celf cyhoeddus newydd gan Howard Bowcott yn cael ei osod yn y mannau gwyrdd. Bydd yn llwyfan ar gyfer dadlau, yn ofod i fyfyrio, yn fan cyfarfod, yn arwydd ffordd, yn lle i gymdeithasu. Bydd yn cynnwys geiriau yn Gymraeg a Saesneg gan Sadia Pineda Hameed a Dylan Huw.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys, Cyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaiarn ac Amgueddfa Robert Owen. Y sefydliadau partner yw Cyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Davies Gallery a Race Council Cymru.

Gwaith ar y gweill yn stiwdio Howard Bowcott yng Ngogledd Cymru

Bydd y gwaith celf cyhoeddus gan Howard Bowcott yn cael ei lansio’n swyddogol gan Dawn Bowden MS (Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip) a Tom Jones OBE (Uchel Siryf Powys).





