Cymraeg

Ymwelwyr yn heidio i ymweld â Sownd yng Nghymru a Fenis

Mae dros 39,000 o ymwelwyr rhyngwladol eisoes wedi ymweld ag arddangosfa Cymru yn Fenis ers iddi agor yn Biennale Fenis ym mis Mai, gan wneud dychweliad Cymru i’r arddangosfa fyd-enwog eisoes yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus eto, gyda mis i fynd tan mae’r arddangosfa yn cau.

Mae'r diddordeb yn Sownd wedi bod yr un mor frwdfrydig yng Nghymru, gyda phrofiadau safle-benodol Sownd [ar safle] wedi gwerthu allan a ffyrdd eraill o ymgysylltu â'r gwaith yn dod â chynulleidfaoedd i orielau a lleoliadau ar draws Cymru.

Gyda dim ond ychydig dros fis ar ôl o'r arddangosfa yn Fenis, mae'r artistiaid yn gwahodd unrhyw un sy'n ymweld â Biennale Fenis i brofi Sownd trwy alw heibio i'r gofod yn Istituto Santa Maria della Pietà yn Castello.

Darllenwch fwy yma

Published: 28.10.2026