Prosiect dan arweiniad Manon Awst a Dylan Huw wedi'i ddewis i gynrychioli Cymru yn Fenis/Wales in Venice 2026
Mae'n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyhoeddi mai Manon Awst a Dylan Huw fydd yn arwain prosiect newydd a fydd yn cael ei gyflwyno i gynrychioli Cymru yn Fenis fel digwyddiad cyfochrog yn y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol - La Biennale di Venezia. Mae'r cydweithrediad cyffrous yma yn bartneriaeth rhwng y ddau artist a'u cydweithwyr, Oriel Davies yn y Drenewydd ac Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin.