Cymru yn Fenis 2026 yn cyflwyno Sownd: Manon Awst + Dylan Huw
Digwyddiad Cyfochrog Swyddogol y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yn cymeryd rhan yn y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia fel Digwyddiad Cyfochrog Swyddogol, yn dilyn ei phresenoldeb diwethaf yn yr arddangosfa yn 2019. Dyma’r 10fed arddangosfa i Gyngor Celfyddydau Cymru ei threfnu yn yr ŵyl ryngwladol bwysig hon i’r celfyddydau gweledol.
Mae Manon Awst, Dylan Huw a'u cydweithwyr yn cynrychioli Cymru yn Fenis 2026 â Sownd, arddangosfa wedi’i chydarwain gan ddwy oriel o Gymru, Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin ac Oriel Davies yn y Drenewydd. Bydd Steffan Jones-Hughes o Oriel Davies yn gwasanaethu fel Curadur a Catherine Spring o Oriel Myrddin yn Gyfarwyddwr Prosiect yr Arddangosfa a bydd y ddau’n Gydgyfarwyddwyr Creadigol.

Bydd yr arddangosfa’n digwydd am y tro cyntaf yn Instituto Santa Maria della Pietà yn Castello. Mae La Pietà yn adeilad enfawr a gafodd ei godi yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, ger Riva degli Schiavoni. Mae’n hawdd cerdded yno o’r Giardini ac Arsenale, prif safleoedd y Biennale. Bydd yr arddangosfa’n digwydd o ddydd Sadwrn 9 Mai tan ddydd Sul 22 Tachwedd 2026. Bydd yn rhad ac am ddim i ymweld â hi.
Bydd yr arddangosfa’n creu awyrgylch cerfluniol sy'n llywio rhwng y materol, iaith a thirwedd. Mae wedi’i chreu’n un gosodiad sy’n cysylltu pob rhan â’i gilydd. Mae’n cynnwys elfennau organig, pethau o ochr yr heol, testun, pensaernïaeth a synau sy’n ymateb i'r adeilad hanesyddol, yr Instituto Santa Maria della Pietà.
Bydd pob elfen yn gerfluniol gan gynnwys yr iaith. Bydd yn creu arddangosfa lle nad oes modd gwahanu ffurf ac ystyr. Rhesymeg farddonol sy’n ei chysylltu â’i gilydd. Mae'n casglu a chydosod darnau i wneud yr arddangosfa’n un fyw drwy ymgorffori darnau o arddangosfa gysylltiedig yn ôl yng Nghymru.
Mae thema’r prosiect o densiwn a gwytnwch i’w weld yn nwy ystyr y gair, Sownd, ‘heb allu symud’ a ‘chadarn ei sail’. Mae'n adlewyrchu sut mae tirwedd ac iaith (enwedig un leiafrifol) yn cynrychioli dyfalbarhad a bod yn fregus ar yr un pryd. Mae'r artistiaid wedi ymchwilio i fawndiroedd Cymru sydd yn eu hanfod yn ludiog ac ansefydlog ond sy’n cuddio cyfrinachau hefyd. Mae gan y lleoedd elfennau organig a chof diwylliannol. Drwyddynt mae'r artistiaid yn archwilio hanes iaith, diwylliant ac ecoleg. Mae'r cydweithio rhwng Manon a Huw yn creu cysylltiadau ar draws ffiniau ac yn tynnu ar hanes Cymru o farddoni a chydweithio’n artistig ar ddarnau safle-benodol.
Meddai Manon: “Mae Cymru yn Fenis yn cynnig cyfle oes, ac rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda Dylan, Oriel Davies ac Oriel Myrddin ar Sownd. Mae ein prosiect yn sbarduno deialog rhwng tirweddau gwlyb, gludiog Cymru a Fenis, gan ffurfio llwybrau cydweithredol newydd ar gyfer cerflunio iaith a deunydd. Bydd yn anrhydedd rhannu'r gwaith gyda chynulleidfaoedd rhyngwladol fel Digwyddiad Cyfochrog Swyddogol y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia ac yn lleol ledled Cymru."
Dywedodd Dylan: "“Mae wedi bod yn wefr greadigol fy mywyd i gydweithio ar Sownd, mewn cymuned â Manon a chydweithwyr niferus y prosiect. Roedd gweld pensaernïaeth hanesyddol La Pietà am y tro cyntaf yn sbardun i’n cynlluniau ac yma yn y Gogledd, bu ein cydweithwyr o gymorth enfawr. Rwyf ar dân eisiau rhannu'r gwaith ag ymwelwyr o bob cwr o'r byd ym mis Mai, gan adeiladu ar etifeddiaeth ddofn Cymru yn Fenis ar gyfer cenedlaethau o ymarferwyr a chynulleidfaoedd o Gymru.”
Dywedodd y Curadur a'r Cydgyfarwyddwr Creadigol, Steffan Jones-Hughes, o Oriel Davies:
"Mae Oriel Davies ac Oriel Myrddin yn falch o ddod â'r prosiect i Fenis. Bydd yn cysylltu Cymru a Fenis mewn ffordd unigryw, drwy ein hieithoedd, ein diwylliant a'n daearyddiaeth. Rydym yn edrych ymlaen at rannu rhagor am natur y gwaith wrth agosáu at agor yr arddangosfa.
"Rwyf wrth fy modd yn curadu arddangosfa Manon a Dylan yn Fenis ac mewn gwahanol leoedd yng Nghymru. Rydym am i'r arddangosfa fod yn hygyrch i’r gynulleidfa gelf ryngwladol a chymunedau Cymru. Manon yw un o'n hartistiaid mwyaf diddorol ac wrth weithio gyda Dylan a'r cydweithwyr, byddwn yn creu arddangosfa drawiadol sy’n cysylltu ag artistiaid, gwyddonwyr, ecolegwyr a’r gynulleidfa.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Prosiect yr Arddangosfa a'r Cydgyfarwyddwr Creadigol, Catherine Spring:
"Rwy'n hapus iawn i fod yn cydweithio â Manon, Dylan ac Oriel Davies. Mae Oriel Myrddin wedi ailagor yn ddiweddar ar ôl gael ei hailddatblygu. Mae gweithio ar Gymru yn Fenis yn bennod newydd gyffrous inni. Rydym am gefnogi gweledigaeth a chyfeiriad creadigol yr arddangosfa amlieithog ac amlddisgyblaethol."
