Oriel Davies ar y teledu!
Mae'r oriel yn rhan o Gartrefi Cymru, cyfres S4C sy'n archwilio cartrefi ac adeiladau ledled Cymru, gyda'r cyflwynydd Aled Samuel a'r hanesydd adeiladau Dr Bethan Scorey yn datgelu'r straeon y tu ôl i'w strydoedd, ei thirnodau a'i gemau cudd.
Mae’r Drenewydd wedi cael ei harddangos mewn rhaglen deledu sy’n tynnu sylw at bensaernïaeth nodedig a gorffennol rhyfeddol y dref.
Dywedodd Dr Scorey fod lleoliad a threftadaeth y Drenewydd wedi ei helpu i ddod yn ganolfan ddiwylliannol yng Nghanolbarth Cymru, gyda sefydliadau fel yr oriel a Theatr Hafren yn adeiladu ar etifeddiaeth y chwiorydd Davies o Gregynog.
Mae Cartrefi Cymru ar gael i’w wylio ar BBC iPlayer.

